Gohirio penderfyniad ar drafnidiaeth
- Cyhoeddwyd

Fe wnaeth ddisgyblion Ysgol Rhydywaun sy'n byw ym Merthyr drefnu protest ym mis Chwefror
Mae Cyngor Merthyr wedi penderfynu gohirio penderfyniad ar y cynnig dadleuol i gael gwared ar drafnidiaeth am ddim i ddisgyblion dros 16.
Roedd disgyblion a rhieni wedi beirniadu cynlluniau'r cyngor i roi'r gorau i dalu am drafnidiaeth ysgol i'r chweched dosbarth.
Yn benodol, roedden nhw'n poeni am yr effaith gallai hyn ei gael ar y Gymraeg yn yr ardal.
Does dim ysgol Gymraeg ym Merthyr felly mae disgyblion o'r ardal sydd eisiau addysg cyfrwng Gymraeg yn teithio i Ysgol Rhydywaun yn y Rhondda, ar drenau a bysus.
Mae llawer yn dweud na fyddan nhw'n gallu fforddio mynd i'r ysgol pe bai'r cyngor yn gwneud iddyn nhw dalu'r gost eu hunain.
Ni fydd y cynnig bellach yn cael ei ystyried heno gan gynghorwyr wrth iddyn nhw drafod y gyllideb a bydd cyfnod arall o ymgynghori nawr yn cael ei gynnal.
Byddai'r cyngor yn arbed £115,000 y flwyddyn drwy gael gwared ar y drafnidiaeth am ddim, wrth iddyn nhw geisio gwneud toriadau o dros £15 miliwn.
Mae eu cyllideb wedi cael ei ostwng £2 filiwn gan Lywodraeth Cymru, yn dilyn toriad i'w cyllideb nhw gan lywodraeth San Steffan.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd1 Chwefror 2014

- Cyhoeddwyd23 Ionawr 2014

- Cyhoeddwyd22 Ionawr 2014
