Beirniaid rhyngwladol ar gyfer y Brifwyl?
- Cyhoeddwyd

Mae Trystan Lewis wedi dweud yn y gorffennol bod diffyg arbenigedd wedi bodoli ymhlith beirniaid
Mi ddylai'r Eisteddfod Genedlaethol ystyried gofyn i feirniaid rhyngwladol i feirniadu cystadlaethau yn y dyfodol.
Dyna awgrym Trystan Lewis sydd yn beirniadu ei hun mewn eisteddfodau.
Daw ei sylwadau wedi i'r brifwyl gyhoeddi eu bod nhw am roi cyfle i feirniaid newydd gael eu mentora gan rai mwy profiadol. Mi wnaethon nhw'r penderfyniad ar ôl trafod y mater gyda Chymdeithas Eisteddfodau Cymru.
Mae'r cynllun yn un mae Trystan Lewis yn ei groesawu. "Rhywbeth sydd yn mynd i gynnal safon cerddoriaeth, safon beirniadu i'r dyfodol, mae hwnna yn sicr yn beth cyffrous ac yn rhywbeth newydd ac yn rhywbeth mae'n rhaid ei gymeradwyo."
Ar Newyddion 9 dywedodd y dylai'r eisteddfod ystyried gofyn i bobl o'r tu allan i Gymru i feirniadu.
"Agwedd wahanol"
"Yn eisteddfodau'r gorffennol, yn eisteddfodau cyn 1950 y rheol Gymraeg, mi oedd 'na feirniaid rhyngwladol yn dod i'r Eisteddfod Genedlaethol er enghraifft. Dw i'n meddwl bod 'na le eto i hynny er bod y rheol Gymraeg mewn bodolaeth.
"Sdim rhaid i'r beirniaid yma dafoli na thraddodi. Mae o yn gyfle i feirniaid rhyngwladol, i gerddorion eraill tu allan i Gymru i ddangos eu profiad a rhoi agwedd wahanol i gerddoriaeth neu i'r maes arbennig hynny."
Yn ôl Trystan Lewis yn y gorffennol mae 'na ddiffyg arbenigedd wedi bodoli gyda phobl yn beirniadu ychydig o bopeth. Ond mae'n dweud bod y cynllun yn "gam pwysig ymlaen i sicrhau arbenigedd a thegwch i'r cystadleuwyr."
Rhyddid i'r beirniaid
Mae Siwan Llynor sydd hefyd yn beirniadu yn dweud y byddai hi wedi gwerthfawrogi cael mentor pan oedd hi yn cychwyn ar y gwaith. Dysgu trwy brofiad wnaeth hi meddai.
"Mewn gwirionedd dw i'n meddwl mai profiad ar y job fel petai a hefyd bod yn gyn gystadleuydd, dw i'n meddwl mai ganddoch chi empathi hefyd efo'r cystadleuwyr gan eich bod chi wedi bod yno eich hun."
Wrth feddwl bod y syniad mentora yn un da roedd hi hefyd yn pwysleisio bod angen i'r beirniaid gael y rhyddid i fynegi eu barn eu hunain. Ac mae Trystan Lewis yn cytuno gan ddweud mai rhoi pobl ar ben ffordd ddylai'r mentor ei wneud.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd11 Chwefror 2014

- Cyhoeddwyd6 Chwefror 2014

- Cyhoeddwyd22 Ionawr 2014
