Datganiad ar organ newydd Cadeirlan Llandaf
- Cyhoeddwyd

Hon yw'r organ fwyaf i gael ei chomisiynu i gadeirlan ym Mhrydain ers 1962
Mae datganiad Dydd Gŵyl Dewi gan Huw Tregelles Williams yn dathlu diwedd chwe mlynedd o waith ar organ Cadeirlan Llandaf.
A chanddi 4,870 o bibau sydd rhwng 26 troedfedd a maint pensel, dyma'r organ bibau fwyaf ym Mhrydain ers 40 mlynedd.
Mae'r cyngerdd yn cynnwys cerddoriaeth JS Bach a'r cyfansoddwr o Gymru, Karl Jenkins.
Fe gafodd apêl i adeiladu'r organ £1.5m ei lansio, wedi i fellten daro'r hen organ yn 2007 gan achosi difrod mawr.
Dywedodd yr Eglwys yng Nghymru mai'r organ hon yw'r fwyaf i gael ei chomisiynu i gadeirlan ym Mhrydain ers 1962.

Mae gan yr organ 4,870 o bibau
Dywedodd llefarydd fod yr offeryn ymysg y gorau yn Ewrop.
Ychwanegodd: "Mae hwn yn ddigwyddiad hyfryd a hanesyddol, ac fe gawn ni brofi sain unigryw ac urddasol organ Cadeirlan Llandaf.
"'Dy ni'n ddiolchgar iawn i Huw Tregelles Williams ac, wrth gwrs, i bawb gyfranodd at yr achos ac a weithiodd yn ddiflino i sicrhau llwyddiant yr apêl.
"Mae'r organ newydd yn offeryn go arbennig fydd yn gaffaeliad nid yn unig i'r gadeirlan, ond i gymuned gerddorol Caerdydd, a gweddill y DU."
Fe gafodd hen organ y gadeirlan ei difrodi gan ffrwydrad yn ystod yr Ail Ryfel Byd, a doedd dim modd ei hachub wedi i fellten ei tharo yn 2007.