Pont newydd dros Afon Dyfi gam yn agosach
- Cyhoeddwyd

Mae lorïau a llifogydd wedi achosi difrod i'r bont ar yr A487
Mae cynlluniau i adeiladu pont newydd dros Afon Dyfi gam yn agosach, wedi i gerbydau mawr a llifogydd ddifrodi'r bont bresennol.
Fe fydd llywodraeth Cymru'n talu am astudiaeth dichonoldeb i weld pa mor ymarferol fyddai adeiladu pont newydd ger Machynlleth.
Cafodd y cyhoeddiad ei wneud mewn llythyr at Aelod Cynlluniad Canolbarth a Gorllewin Cymru, William Powell.
Fe gadarnhaodd y Gweinidog Trafnidiaeth Edwina Hart na fyddai'r bont newydd yn cynnwys ffordd osgoi heibio Machynlleth.
Roedd opsiynau eraill yn cynnwys codi'r ffordd yn uwch, neu bont newydd mewn lleoliad arall.
Gwyriad o 20 milltir
Mae ymgyrchwyr ym Machynlleth wedi cwyno bod trigolion yn wynebu gwyriad o 20 milltir pan mae Pont Ar Ddyfi ar gau oherwydd llifogydd neu ddifrod gan cerbydau mawr.
Meddai Mr Powell: "Rwy'n falch iawn i weld datblygiad yn y cynllun...
"Rwy'n falch bod y gweinidog wedi gwrando ar bryderon nifer o arweinwyr busnes lleol, gan na fydd y cynlluniau yn cynnwys ffordd osgoi.
"Mae'r gweinidog yn mynd i roi gwybod i mi am ddatblygiad y bont newydd yn y misoedd i ddod, ac mae fy ymrwymiad yn parhau i weithio gyda llywodraeth Cymru i wneud yn siwr bod pont newydd yn cael ei hadeiladu cyn gynted â phosib".
'Dolen hanfodol'
Fe gafodd rhan o wal y bont ei malu gan lori yn 2010 gan gau'r bont i gerbydau mawr am wythnosau.
Yn ogystal, mae'r tywydd garw wedi achosi i'r bont gael ei chau nifer o weithiau.
Dywedodd Michael Williams, cynghorydd Machynlleth ar Gyngor Powys, fod Pont Ar Ddyfi yn ddolen hanfodol rhwng gogledd Cymru ac Aberystwyth.
Ychwanegodd: "'Dy ni'n gwybod nad oes pot dibendraw o arian, ond 'dy ni yn ardal Bro Ddyfi a Machynlleth yn teimlo bod pont newydd yn hanfodol i bobl leol, yr economi leol a'r hwb y byddai'n ei roi i dwristiaeth a busnes."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd18 Chwefror 2013

- Cyhoeddwyd12 Mehefin 2012
