Casnewydd 0 - 0 Fleetwood
- Cyhoeddwyd

Noson ddi-sgor oedd hi yn Rodney Parade wrth i Gasnewydd groesawu Fleetwood yng ngêm yr ail adran.
O fewn y chwarter awr cyntaf, roedd Casnewydd wedi cael dau gyfle da i sgorio ond roedd cic Chris Zebroski yn rhy uchel ac fe fethodd peniad Lee Minshull.
Di-sgor oedd hi ar yr hanner gydag Andy Sandell o Gasnewydd wedi derbyn cerdyn felen ychydig funudau ynghynt.
Roedd Casnewydd yn gobeithio dial am y grasfa yn erbyn Fleetwood 'nôl ym mis Tachwedd, pan gollodd dynion Justin Edinburgh 4-1 yn Fleetwood.
Yn yr ail hanner, fe welodd Steven Schumacher o dîm Fleetwood y garden felen o fewn 70 munud.
Wedi 76 munud, fe eilyddiwyd Ismail Yakubu oherwydd anaf ac fe ddaeth Andrew Hughes i'r cae yn ei le dros Gasnewydd.
Y tîm cartref oedd â phrif feddiant y gêm ac mae'n gadael Casnewydd yn y degfed safle yn yr ail adran, gyda 44 o bwyntiau.
Mae Fleetwood yn chweched yn y tabl, deg pwynt uwchben dynion Justin Edinburgh, ond wedi chwarae dwy gêm yn fwy.