400 o swyddi yn y fantol ym Mhowys
- Cyhoeddwyd

Roedd dros 100 wedi protestio yn erbyn toriadau ym mis Chwefror
Mae Cyngor Powys wedi cymeradwyo eu cyllideb, fydd yn arwain at golli 400 o swyddi.
Bydd treth cyngor yn y sir yn codi 4.5% wrth i'r cyngor geisio arbed £20m o'r gyllideb ar gyfer 2014/15.
Mae hyn yn cyfateb i godiad o ryw £43 y flwyddyn ar gyfer eiddo Band D.
Yn ogystal, mae'r cyngor wedi cytuno i doriad o 75% i gludiant cyhoeddus, dod a gwasanaeth pryd-ar-glud i ben a torri 15% i'r gwasanaeth Cyngor ar Bopeth (CAB).
Roedd rhaid gohirio cyfarfod o'r cyngor llawn ar Chwefror 25 wedi saith awr o drafod, a hynny heb ddod i benderfyniad.
Daeth 100 o brotestwyr i'r cyfarfod hwnnw, ond cafodd ei ohirio i alluogi i gynghorwyr ystyried cynlluniau newydd.
Roedd cynllun i haneru cyllideb Cyngor ar Bopeth, ond cafodd y penderfyniad ei hail-ystyried wedi i deiseb gyda 5,000 o enwau arni gael ei chyflwyno.
Un oedd yn protestio yn y cyfarfod yr wythnos diwethaf oedd Rosie McConnell.
Dywedodd: "Rydw i wedi darllen y gyllideb newydd ac o be' dwi'n ei ddeall mae'n waeth na'r cyntaf, gyda rhai gohiriadau."
Ychwanegodd: "Rydw i yn erbyn pob toriad. Mae'n rhaid i ni ddod o hyd i ffyrdd o gefnogi pobl yn ein cymunedau."
Ddydd Mercher, pleidleisiodd 38 o blaid y cynlluniau ac 18 yn erbyn. Penderfynodd 5 ymatal eu pleidlais.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd5 Mawrth 2014

- Cyhoeddwyd25 Chwefror 2014

- Cyhoeddwyd16 Hydref 2013

- Cyhoeddwyd20 Rhagfyr 2013
