Carchar i ddyn o Flaenau Ffestiniog
- Cyhoeddwyd

Fe ddywedodd y Barnwr Timothy Petts fod gan Williams "obsesiwn"
Mae dyn o Flaenau Ffestiniog wedi ei ddedfrydu i dair blynedd a hanner o garchar wedi iddo lawrlwytho dros 4,500 o luniau anweddus o blant.
Fis Ionawr fe gafwyd Derek Williams, 53, yn euog o 15 cyhuddiad yn ymwneud â delweddau anweddus o blant.
Roedd o eisoes wedi cyfaddef lawrlwytho lluniau anweddus yn ymwneud ag anifeiliaid.
Yn Llys y Goron Caernarfon fe ddywedodd y Barnwr Timothy Petts fod gan Williams "obsesiwn" a'i fod wedi ceisio beio dyn arall am y troseddau.
Saith mlynedd yn ôl fe gafodd Williams ddedfryd o garchar wedi ei gohirio am droseddau tebyg.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd17 Ionawr 2014
