Llandysul: Cyhuddo dyn o lofruddiaeth
- Cyhoeddwyd

Cafwyd hyd i gorff Patricia Anne Durrant ddydd Llun
Mae Heddlu Dyfed Powys wedi cadarnhau eu bod wedi cyhuddo dyn 59 oed o lofruddiaeth.
Cafodd y dyn ei arestio yn dilyn marwolaeth Patricia Durrant, oedd yn 65 oed, yn Llandysul ddydd Llun.
Fe fydd y dyn yn ymddangos gerbron ynadon Hwlffordd fore Gwener, Mawrth 7.
Hefyd ddydd Gwener fe fydd Uwch Grwner Ceredigion yn agor cwest i farwolaeth Ms Durrant yn Aberystwyth.