Ronald Koeman â diddordeb yn swydd rheolwr Abertawe
- Cyhoeddwyd

Dywedodd asiant Koeman, petai'r siawns yn codi iddo fod yn rheolwr newydd Abertawe, y byddai'n cymryd y swydd
Mae rheolwr Feyenoord, Ronald Koeman, â diddordeb mewn rheoli clwb dinas Abertawe, yn ôl ei asiant, Guido Albers.
Mae cyn amddiffynwr yr Iseldiroedd wedi cyhoeddi ym mis Chwefror y bydd yn gadael ei glwb ar ddiwedd y tymor.
Dywedodd Albers with BBC Cymru petai'r siawns yn codi i Koeman, 50 oed, fod yn rheolwr newydd Abertawe, y byddai'n cymryd y swydd.
Fodd bynnag, mae ffynhonnell o fewn clwb Abertawe wedi dweud nad oes ganddyn nhw ddiddordeb siarad â Koeman.
Roedd Garry Monk wedi cael ei apwyntio yn brif hyfforddwr yn Stadiwm Liberty yn dilyn ymadawiad Michael Laudrup.
Mae Albers wedi cadarnhau ei fod wedi siarad â chlwb Abertawe ar ran Koeman.
Mae'n dweud ei fod wedi e-bostio'r cadeirydd, Huw Jenkins a'r is-gadeirydd, Leigh Dineen, ond heb gael ymateb.
"Mae Abertawe yn glwb ffantastig ac yn glwb efo lot o botensial ar y cae", meddai Albers.
"Fe fyddai (Koeman) yn gallu sicrhau llwyddiant i'r clwb. Os ydech chi'n gweld yr holl chwaraewyr ffantastig yn Abertawe, efallai y bydd yn gallu dod o hyd i gyffyrddiad fyddai'n mynd ag Abertawe i lefel uwch."
Hyfforddwr profiadol
Roedd Koeman wedi helpu clwb Feyenoord o Rotterdam i gyrraedd yr ail safle yn yr Eredivisie yn ei dymor cyntaf fel rheolwr yno, ac yna wedi gorffen yn y trydydd safle. Mae nhw ar hyn o bryd yn bedwerydd yng nghynghrair yr Iseldiroedd.
Mae hefyd wedi rheoli PSV Eindhoven, Valencia, Benfica ac yn gynorthwy-ydd yn Barcelona.
Fel chwaraewr, mae wedi ennill y Bencampwriaeth Ewropeaidd yn 1988 gyda'r Iseldiroedd, ac wedi cyd chwarae gyda Laudrup, cyn reolwr Abertawe yn y Nou Camp.
Mae Albers yn dweud bod tipyn o ddiddordeb yn Koeman ers iddo gyhoeddi ei fod yn gadael Feyenoord, a bod 25 o asiantau wedi'i ffonio'n barod.
Ond mae'n annog Abertawe i gysylltu: "Os yden nhw â gwir ddiddordeb, dewch nôl atai".