Disgwyl i gorff Casnewydd gael ei adnabod
- Cyhoeddwyd

Cafodd yr heddlu eu galw i'r safle fore Iau
Mae disgwyl i'r heddlu geisio adnabod corff gafodd ei ddarganfod pedwar milltir o gartref Nida Naseer yng Nghasnewydd yn ddiweddarach.
Ddydd Iau, daeth yr heddlu o hyd i gorff ar Wlyptiroedd Casnewydd ger West Nash Road.
Dyw Nida Naseer, 19, heb ei gweld ers iddi fynd a sbwriel allan o'i thy ar Stryd Linton, Pill ar Ragfyr 28.
Mae ei theulu wedi cael gwybod am y darganfyddiad.

Mae'r Heddlu wedi gosod rhaff i atal pobl rhag mynd at y safle.
Dywedodd yr heddlu y byddai'r corff yn cael ei adnabod yn ffurfiol yn ddiweddarach, a bod y farwolaeth yn cael ei thrin fel un anesbonadwy.
Dywedodd Cyfoeth Naturiol Cymru, sy'n rheoli'r gwlyptiroedd, bod y corff wedi ei ddarganfod ar darn o dir nad oedd ar agor i'r cyhoedd.
Mae teulu Nida Naseer wedi gwneud sawl apel i'w merch ddychwelyd adref ers iddi ddiflannu.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd15 Mawrth 2014

- Cyhoeddwyd28 Chwefror 2014

- Cyhoeddwyd28 Ionawr 2014

- Cyhoeddwyd25 Ionawr 2014
