Banciau bwyd: esgobion yn ymuno â'r ymgyrch i daclo llwgu
- Cyhoeddwyd

Archesgob Cymru, Dr Barry Morgan, yn annog Llywodraeth y DU i daclo'r argyfwng.
Mae Archesgob Cymru, Dr Barry Morgan, ac esgobion eraill o Gymru'n annog llywodraeth y DU i daclo'r argyfwng newyn.
Dywedodd yr Ymddiriedolaeth Trussell ei fod wedi rhoi cymorth bwyd brys i bron 80,000 yng Nghymru yn y 12 mis diwethaf.
Mae hynny ddwywaith gymaint â'r nifer yn 2012-13.
Ond mae'r llywodraeth wedi dweud bod ffigyrau swyddogol yn dangos bod llai o bobl angen help banciau bwyd.
'Anhygoel'
Mae'r Archesgob ac Esgobion Bangor a Llanelwy, Andy John a Dr George Cameron, wedi ymuno â 500 o glerigwyr ac esgobion eraill wrth lofnodi'r llythyr "End Hunger Fast".
Ar ddechrau'r Grawys roedd 27 o esgobion wedi llofnodi'r llythyr gwreiddiol a chafodd deiseb gyda 70,000 o lofnodion ei chyflwyno i'r llywodraeth, yn gofyn iddyn nhw wneud rhywbeth am y sefyllfa.
Fel rhan o'r ymgyrch mae nifer o glerigwyr wedi bod yn ymprydio am 40 diwrnod dros y Grawys.
Dywedodd Dr Morgan: "Mae'n anhygoel i feddwl hyn, mewn gwlad lwyddiannus fel ein un ni, lle rydym yn dweud bod yr economi yn gwella a phrisiau tai yn codi, bod bron i filiwn o bobl yn teimlo bod angen ymweld â banciau bwyd i fwydo eu teuluoedd.
"Arwydd o gymdeithas wareiddiedig yw sut mae'n trin ei phobl dlotaf a mwyaf bregus. "
'Yn gwella'
Mae'r llywodraeth yn San Steffan wedi amddiffyn eu polisïau drwy gyfeirio at ffigyrau gan Sefydliad Cydweithrediad a Datblygiad Economaidd (OECD).
Mae'r ffigyrau'n dweud bod nifer o bobl sy'n ei chael yn anodd fforddio bwyd wedi gostwng o 9.8% yn 2007 i 8.1% yn 2012.
Dywedodd llefarydd dros Lywodraeth y DU: "Y gwir yw hyn, mae nifer pobl mewn gwaith ar ei uchaf ers pum mlynedd a bydd ein diwygiadau yn gwella bywydau rhai o'r teuluoedd tlotaf yn ein cymunedau drwy hyrwyddo gwaith a helpu pobl i godi eu hunain allan o dlodi."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd10 Hydref 2011

- Cyhoeddwyd30 Mai 2013

- Cyhoeddwyd24 Rhagfyr 2013
