Llywodraeth Cymru yn prynu parc busnes ym Mhen-y-Bont
- Cyhoeddwyd
.jpg)
Mae Llywodraeth Cymru hefyd yn gyfrifol am tua 60 acer o dir yn agos i'r parc technoleg
Mae parc busnes yn Ne Cymru wedi ei werthu i Lywodraeth Cymru am £12.5m.
Parc technoleg ar gyrion Pencoed ydy o gyda nifer o fusnesau yn gweithio ar y safle. Mae gwaith ymchwil, cynhyrchu a dosbarthu yn digwydd yn y parc a swyddfeydd ar gyfer busnesau.
Cafodd y lle ei greu yng nghanol y 90au ar gyfer cwmni Sony. Roedd Sony yn cynhyrchu setiau teledu yno. Mae Llywodraeth Cymru yn dweud ei bod nhw wedi prynu'r parc er mwyn ceisio denu cwmnïau i fuddsoddi yn ardal Pen-y-bont. Y gobaith ydy y bydd hyn yn creu swyddi newydd. Maen nhw hefyd yn dweud bod hyn yn ffordd iddyn nhw greu perthynas agosach gyda'r cwmnïau sydd wedi eu lleoli ar y safle'n barod.
Dywedodd y Gweinidog Economi, Edwina Hart, bod y parc wedi ei leoli mewn lle da ar gyfer ardal Gorllewin Cymru a'r Cymoedd. "Ein bwriad ydy adeiladu ar yr ansawdd uchel o wyddorau bywyd a chwmnïau cynhyrchu a denu busnesau newydd a swyddi newydd i'r ardal."
Yn ôl Justin Millett, pennaeth JLL, sydd wedi bod yn cynghori'r cwmni wnaeth werthu'r parc i Lywodraeth Cymru:
"Mae'r parc yn ased gwerthfawr gyda chymysgedd o denantiaid arloesol sydd yn deall yr awyrgylch modern ac yn gwneud cyfraniad gwerthfawr i economi Cymru."