Plas Gwynfryn ar dân
- Cyhoeddwyd

Roedd y plas yn arfer bod yn berchen i'r gwleidydd Ceidwadol Hugh John Ellis Nanney
Mae diffoddwyr wedi cael eu galw i ddelio â thân mewn hen blasdy yn Llanystumdwy.
Mae mwg mawr i'w weld yn dod o grombil Plas Gwynfryn, ac mae'r gwasanaethau brys yn dweud fod y tân wedi cael tipyn o afael.
Yn ôl Gwasanaeth Tân Gogledd Cymru mae criwiau wedi cael eu hanfon o Borthmadog, Pwllheli a Nefyn.
Fe gafodd y plas ei ddifrodi gan dân yn yr wythdegau hefyd.