Lladrad arfog: yr heddlu yn apelio am wybodaeth
- Cyhoeddwyd
Mae Heddlu'r Gogledd yn chwilio am dri dyn mewn perthynas a lladrad arfog yn siop Co-op yn Sir Fflint nos Sul.
Roedd staff ar fin cau'r siop ym mhentref Coed-llai, ger Yr Wyddgrug, toc cyn deg pan aeth tri dyn mewn mygydau yno a mynnu arian cyn dianc mewn car glas tebyg i Mondeo.
Mae'r heddlu yn dweud efallai bod na gysylltiad rhwng y lladrad arfog a'r ffaith bod rhai wedi ymyrryd gyda rhifau ar geir pobl ym Mhontblyddyn.
Gofynnir i unrhyw un sydd gyda gwybodaeth gysylltu gyda'r heddlu trwy ffonio 101 neu Taclo'r Tacle yn anhysbys ar y rhif 0800 555111.