Gwrthdrawiad loris: Heddlu'n apelio
- Cyhoeddwyd
Mae'r heddlu'n apelio am wybodaeth wedi i ddwy lori daro'n erbyn ei gilydd yng Ngwynedd.
Cafodd dynes 18 oed ei thynnu o'r lori darmac roedd hi'n teithio ynddi gan y gwasanaethau brys, a'i chludo i Ysbyty Gwynedd gydag anafiadau difrifol.
Lori finiau Cyngor Gwynedd oedd y cerbyd arall oedd yn y ddamwain.
Fe gafodd Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru eu galw am tua 5:40yb i'r A470 ym Mronaber, ger Trawsfynydd.
Fe aeth criwiau o Borthmadog, Blaenau Ffestiniog a Chaernarfon yno hefyd.
Gall unrhywun welodd y gwrthdrawiad gysylltu â PC 1987 Rhys Williams yn Uned Heddlua Ffyrdd Dolgellau ar 101.