Apêl am eitemau i nodi pen-blwydd tîm pêl-droed Wrecsam
- Cyhoeddwyd

Mae Joey Jones yn cefnogi'r apêl am eitemau sy'n cofnodi hanes clwb pêl-droed Wrecsam
Mae apêl wedi cael ei lansio am eitemau sydd yn ymwneud â hanes tîm pêl-droed Wrecsam wrth i'r clwb ddathlu ei ben-blwydd yn 150 mlwydd oed.
Y bwriad yw sefydlu amgueddfa dros dro mewn canolfan siopa yn Wrecsam ym mis Mai i arddangos yr eitemau.
Un o'r rhai sydd yn cefnogi'r ymgyrch yw cyn-gefnwr Wrecsam a Lerpwl, Joey Jones, sydd bellach yn hyfforddwr tîm ieuenctid Wrecsam.
Dywedodd Mr Jones: "Mae clwb pêl-droed Wrecsam yn golygu popeth i mi.
"Mae wastad wedi bod yn glwb ffantastig gyda chefnogwyr gwych a ffyddlon ac os yw'r amgueddfa dros dro yn helpu cefnogwyr i ddathlu carreg filltir fawr i'r clwb ac yn helpu i godi proffil y clwb, mae'n rhaid iddo fod yn beth da.
"Byddai'n wych gweld beth yn union sydd gan gefnogwyr wedi ei guddio yn eu cypyrddau boed yn hen raglen neu'n docyn i gêm."
Mae'r cynllun hefyd wedi cael cymeradwyaeth gan Ymddiriedolaeth Cefnogwyr Wrecsam wnaeth brynu'r clwb yn yn Rhagfyr 2011.
Dywedodd cadeirydd yr ymddiriedolaeth, Peter Jones, ei fod wrth ei fodd gyda'r ymgyrch i ddathlu pen-blwydd y clwb, a sefydlwyd yng ngwesty'r Turf ar 4 Hydref 1864.
Dywedodd: "Wrecsam yw'r clwb pêl-droed hynaf yng Nghymru a'r trydydd hynaf yn y byd ar ôl Notts County (1862) a Stoke City (1863).
"Ac mae'r Cae Ras, lle y mae'r clwb yn dal i chwarae, yn cael ei gydnabod gan y Guinness Book of Records fel y stadiwm bêl-droed rhyngwladol hynaf yn y byd sydd ddal mewn defnydd."
Ychwanegodd: "Mae'r amgueddfa yn syniad gwych a byddaf yn cefnogi unrhyw gynllun i godi proffil clwb pêl-droed Wrecsam."
Bydd yr amgueddfa dros dro yng nghanolfan siopa Dôl yr Eryrod rhwng 29 a 31 Mai.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd23 Mawrth 2013
