Cyfarfod cyhoeddus yn erbyn cynllun saethu adar gwyllt
- Cyhoeddwyd

Mae tua 70 o bobl wedi bod i gyfarfod cyhoeddus yng Nghricieth nos Fercher, i wrthwynebu cais i saethu adar gwyllt yn aber afon Dwyfor.
Mae cymdeithas 'Traeth Bach Wildfowling Association' wedi cyflwyno cais i Stadau'r Goron, perchnogion y tir, i gael saethu ar ddarn o dir rhyw 200 llath o hyd.
Ond mae nifer o bobl leol yn gwrthwynebu'n chwyrn gan ddadlau y byddai rhoi caniatâd i saethu yn difetha tawelwch yr ardal ac y byddai hefyd yn beryglus gan fod llwybr yr arfordir gerllaw.
Mewn datganiad dywedodd BACS, y gymdeithas sy'n cynrychioli cymdeithasau saethu fod yna broses ymgynghori helaeth wedi digwydd.
Dywedon nhw y dylai pawb fod yn dawel eu meddwl fod saethwyr yn bobol gyfrifol ac yn deall yr angen am ddiogelwch.
Mae disgwyl i Stadau'r Goron wneud penderfyniad terfynol ym mis Gorffennaf.