Rhybudd teulu ynghylch gêm yfed Neknominate
- Cyhoeddwyd

Roedd Stephen Brooks wedi yfed tri chwarter botel o fodca cyn iddo farw
Mae teulu dyn wnaeth gymryd rhan yn y gêm yfed Neknominate wedi rhybuddio ynghylch peryglon y gêm.
Bu farw Stephen Brookes, 29, o Dredelerch, wedi i ffrind ei recordio yn yfed tri chwarter botel 75cl o fodca.
Dywedodd modryb Stephen Brookes, Christine Beresford bod angen i bobl ddeall pa mor beryglus yw'r gêm ar y we.
Casgliad y crwner oedd bod Stephen wedi marw o wenwyn yfed a defnydd o gocên.
Gwefannau cymdeithasol
Fel rhan o gêm Neknominate, mae pobl yn yfed diodydd cryf ac yna yn rhoi lluniau o'u hunain ar wefannau cymdeithasol.
Mae Ms Beresford yn credu y byddai Mr Brookes yn dal yn fyw os na fyddai wedi cymryd rhan yn y gêm.
Mi glywodd y cwest yng Nghaerdydd ddatganiadau gan nifer o ffrindiau ac aelodau'r teulu.
Dywedon nhw fod Stephen wedi mynd i barti mewn tŷ ar Chwefror 8 ac wedi dechrau yfed yn drwm a chymryd cocên.
Ddeuddeg awr yn ddiweddarach, yfodd dri chwarter botel o fodca. Mi ddywedodd un ffrind ei fod wedi yfed y botel mewn ychydig o eiliadau.
Bu farw Mr Brookes o fewn awr o yfed y fodca, ac ar y pryd roedd ganddo 458 mililitr o alcohol yn ei waed.
Cafodd rheithfarn o farwolaeth drwy wenwyn yfed a defnydd o gocên ei gofnodi.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd10 Chwefror 2014
