Zebre 30-27 Gweilch
- Cyhoeddwyd

Cafodd Alun Wyn Jones gais
Cafodd y Gweilch siom yn Parma wrth i gais yr eilydd o fewnwr Guglielmo Palazzani yn y funud ola' olygu'r fuddugoliaeth gynta' yn erbyn y rhanbarth o Gymru.
Mae'r canlyniad yn bygwth gobeithion y Gweilch yn y Pro12.
Ar y llaw arall, mae buddugoliaeth yr Eidalwyr yn golygu y gallen nhw chwarae yng Nghwpan Pencampwyr Ewrop y flwyddyn nesa'.
Giovanbattista Venditti a Brendan Leonard groesodd y llinell i Zebre.
Justin Tipuric, Ashley Beck a'r capten Alun Wyn Jones sgoriodd geisiadau i'r Cymry mewn gêm gyffrous.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd20 Ebrill 2014

- Cyhoeddwyd11 Ebrill 2014

- Cyhoeddwyd28 Mawrth 2014

- Cyhoeddwyd12 Ebrill 2014

- Cyhoeddwyd3 Ebrill 2014
