Streiciau pellach gan ddiffoddwyr
- Cyhoeddwyd

Roedd aelodau o Undeb y Frigâd Dân yn rhan o orymdaith Cyngor Undebau Llafur Caerdydd ddydd Sadwrn
Mae diffoddwyr ar draws Cymru yn cynnal streiciau pellach ddydd Sadwrn, yn dilyn gweithredu am bum awr ddydd Gwener.
Dechreuodd y streic am 2:00yh ddydd Sadwrn, ac mae disgwyl iddo bara drwy'r prynhawn tan 2:00yb fore Sul.
Bydd streic bellach am bum awr ddydd Sul o 10:00yb.
Mae'r gweithredu'n rhan o anghydfod am gynlluniau llywodraeth y DU i godi oed ymddeol diffoddwyr o 55 i 60, a chynyddu eu cyfraniadau pensiwn.
Dywedodd prif swyddogion tân bod eu cynlluniau wrth gefn wedi gweithio'n dda yn ystod y streic gyntaf ddydd Gwener, ond maen nhw'n annog y cyhoedd i fod yn ofalus dros benwythnos Gŵyl y Banc.
'Penderfyniad anodd'
Mae Undeb y Frigâd Dân (FBU) wedi cynnal cyfres o streiciau byr ar draws Cymru a Lloegr ers mis Medi gan hawlio y dylai diffoddwyr gael ymddeol yn gynt na gweithwyr eraill oherwydd natur gorfforol y gwaith.
Yn siarad yn y rali Cyngor Undebau Llafur Caerdydd ddydd Sadwrn, dywedodd Cerith Griffiths, cadeirydd Undeb y Diffoddwyr Tan yng Nghymru bod y penderfyniad i streicio yn un anodd.
"Mae'n bwysig esbonio, 'sdim un diffoddwr tan ishe cymryd y gweithred hyn, 'dy ni ddim ishe bod ar streic, ond ar yr un pryd ni ddim yn mynd i dderbyn beth mae'r llywodraeth yn trio 'neud gyda'n pensiynau ni," meddai.
"Mae'n anodd i gerdded i ffwrdd o'r gwaith 'dy ni yn 'neud bob nos a bob dydd.
"Ond ar ddiwedd y dydd ni'n fodlon 'neud hynny i arbed ein pensiynau ni."
Gŵyl y Banc
Dywedodd Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru bod staff oedd ddim yn aelodau o'r undeb wedi bod ar ddyletswydd yn ystod streic ddydd Gwener, gan fynychu 11 o ddigwyddiadau gan gynnwys pedair damwain ffordd ac achub menyw o bwll biswail.
Dywedodd prif swyddog Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru Simon Smith bod yr ystafell reoli wedi derbyn "nifer sylweddol yn llai o alwadau na'r disgwyl ar brynhawn dydd Gwener arferol".
Ond ychwanegodd: "Er bod y streic yma drosodd, byddwn yn atgoffa pawb bod sylw i ddiogelwch tân ac ar y ffyrdd yn holl bwysig dros y penwythnos, yn enwedig gan ei bod yn Ŵyl y Banc pan mae mwy o risg i ddiogelwch."
Yn ne Cymru, dywedodd y dirprwy prif swyddog tân Rod Hammerton bod yr ymateb i'r streic ddydd Gwener wedi bod "yn uchel" gan arwain at leihad mawr yn yr adnoddau oedd ar gael, ond bod y trefniadau wrth gefn "wedi gweithio'n dda".
Mae'r penaethiaid i gyd wedi pwysleisio bod tanau gwair yn destun pryder arbennig iddyn nhw dros benwythnos Gŵyl y Banc.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd2 Mai 2014
