Abertawe 0 - 1 Southampton
- Cyhoeddwyd

Fe wnaeth ymosodwr Lloegr, Rickie Lambert sgorio gôl hwyr yn Stadiwm y Liberty i sicrhau buddugoliaeth ddramatig i Southampton yn erbyn Abertawe ddydd Sadwrn.
Daeth y gôl yn y drydedd funud o amser ychwanegol, mewn gem di fflach.
Daeth y gôl wedi i gapten yr Elyrch, Ashley Williams geisio clirio'r bel yn ei gwrt cosbi ei hun.
Aeth y bel yn uchel dros ben y gôl-geidwad Michel Vorm, ac i mewn i'r rhwyd oddi ar gefn Lambert.
Roedd y ddau dîm wedi methu cymryd mantais o'r cyfleoedd y cawson nhw, wrth i'r timoedd agosáu at ddiwedd y tymor heb unrhyw darged mawr i anelu ato.
Abertawe aeth yn agos yn gyntaf, wrth i Artur Boruc arbed ergyd Pablo Hernandez yn gynnar, a peniodd Wilfried Bony heibio'r postyn yn fuan wedyn.
Daeth Southampton i mewn i'r gêm yn raddol, a dylai Morgan Schneiderlin wedi gwneud yn well gyda'i beniad yn agos at y gol.
Dechreuodd y Saints reoli'r chwarae, ond doedden nhw dal methu creu cyfleoedd clir o flaen y rhwyd.
Daeth Lambert i'r cae gyda hanner awr yn weddill, ac roedd yn y lle iawn yn y diwedd i sicrhau gôl ffodus i'r ymwelwyr.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd26 Ebrill 2014

- Cyhoeddwyd19 Ebrill 2014
