28,000 'gyda genynnau diffygiol'
- Cyhoeddwyd

Mae'r elusen yn dweud bod tua 30 o bobl dan 35 oed yn marw'n annisgwyl yn sgil problemau'r galon bob blwyddyn.
Mae Sefydliad y Galon Cymru (BHF) yn galw am ymchwil brys i gyflyrau'r galon sy'n cael eu hetifeddu, gan eu bod yn amcangyfrif bod hyd at 28,000 o bobl yng Nghymru yn byw gyda genynnau diffygiol.
Mae'r genynnau hyn yn eu rhoi mewn perygl o ddatblygu clefyd y galon neu farw'n ifanc iawn.
Mae'r elusen yn dweud bod tua 30 o bobl dan 35 yn marw'n annisgwyl yn sgil problemau'r galon bob blwyddyn.
Mae rhywun sy'n byw gyda chyflwr y galon sydd wedi'i etifeddu gyda siawns 50:50 o'i drosglwyddo i'w plant.
Mae ymgyrch newydd yn galw am fwy o ymchwil i ddarganfod y genynnau sy'n gyfrifol.
Mae'r problemau yn gallu cael eu hetifeddu a'u trosglwyddo o genhedlaeth i genhedlaeth.
'Angen cyflymu'r ymchwil'
Yn ôl yr elusen, gallai ymchwil newydd amddiffyn plant o gyflyrau'r galon ac arwain at driniaethau newydd.
Mae amcangyfrifon blaenorol gan wyddonwyr sy'n dweud mai 18,000 o bobl yng Nghymru sy'n byw gyda genyn diffygiol yn anghywir, medd yr elusen.
Mae'r ymgyrch yn anelu i godi ymwybyddiaeth o'r broblem, gan fod diagnosis cynnar yn gallu golygu'r gwahaniaeth rhwng bywyd a marwolaeth.
Yn ôl cyfarwyddwr meddygol BHF, yr Athro Peter Weissberg: "Mae angen cyflymu'r ymchwil i gyflyrau'r galon sy'n cael eu hetifeddu ar frys.
"Dros y blynyddoedd diwethaf, mae ymchwilwyr wedi cymryd camau mawr mewn adnabod rhai o'r genynnau sy'n achosi'r problemau calon hynny sydd wedi'u hetifeddu.
"Gallai prawf geneteg i blentyn rhiant sydd yn dioddef achub ei fywyd. Mae angen mwy o ymchwil nawr ar frys i adnabod yr holl enynnau sy'n gyfrifol am y salwch angheuol hwn."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd2 Ionawr 2014

- Cyhoeddwyd8 Mai 2013

- Cyhoeddwyd19 Ebrill 2013
