Darganfod darnau o hen long ar Borth Neigwl wedi storm
- Cyhoeddwyd

Gallai'r pren yma fod yn rhan o long a suddodd yn 1899
Gallai dau ddarn o bren cafodd eu darganfod ar draeth Porth Neigwl, Penrhyn Llŷn, fod wedi gorwedd o dan y môr am dros ganrif yn ôl aelodau o'r Gymdeithas Warchodaeth Morol (MCS).
Cafodd y pren ei ddarganfod wedi storm ddifrifol gan Paul Kay, Swyddog Prosiect Cymru ar gyfer yr MCS sy'n byw yn yr ardal, a'r awdur Chris Holden, sy'n ysgrifennu am longddrylliadau o amgylch arfordir gogledd Cymru.
Mae'r ddau yn credu y gallai'r pren fod yn rhan o long o'r enw Rob the Ranter a suddodd ym Mhorth Neigwl yn 1899.
"Fe wnaethon ni ddarganfod dau ddarn o bren caled trofannol," meddai Mr Kay.
"Roedd gan un darn amryw o dyllau wedi eu drilio i mewn iddo ac er bod y pren mewn cyflwr cymharol dda roedd yn dangos olion o galediad, sydd yn digwydd pan mae deunydd yn ymrwymo ag arteffactau ar wely'r môr.
"Mae hyn yn golygu bod rhaid i'r pren fod wedi bod o dan y môr am amser hir ac os mai darnau o'r Rob the Ranter ydynt rhaid eu bod wedi bod o dan y môr am dros ganrif."
Stormydd difrifol
Cafodd nifer o longau hwylio bychan eu dinistrio yn yr ardal yn agos at le darganfuwyd y coed, o'r 1880au hyd at ddegawd cyntaf yr 20fed ganrif.
Bu farw dau aelod o griw'r Rob the Ranter tra llwyddodd y goroeswyr i ddianc yn eu cwch eu hunain a dod i'r lan ger Trefallwyn.
Dywedodd Mr Kay bod y ffaith bod y prennau wedi cael eu taflu i'r lan yn dangos pa mor ddifrifol oedd y stormydd diweddar.
Mae hefyd yn dangos sut y gall pethau sydd wedi bod yn gorwedd ar wely'r môr ailymddangos ar ôl cyfnod hir iawn.
Y dyddiau hyn mae pobl yn fwy tebygol o ddod o hyd i blastig ar y traeth a dywedodd Mr Kay mai'r broblem gyda phlastig yw y gallai bara yn yr amgylchedd morol am ganrifoedd.
Mae'n torri i ddarnau llai a allai yn y pen draw cael eu bwyta gan bysgod ac yna mynd i mewn i'r gadwyn fwyd.
"Os gall pren ailymddangos ar ôl canrif does dim gwybod pryd y bydd plastig yn ailymddangos, gan ei gwneud yn hanfodol ein bod yn lleihau faint sydd yn mynd i mewn i'r amgylchedd morol," meddai Mr Kay.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd19 Tachwedd 2012

- Cyhoeddwyd2 Rhagfyr 2011
