Kirsty Williams yn lansio maniffesto
- Cyhoeddwyd

Mae'r Democratiaid Rhyddfrydol yn dweud eu bod nhw'n gefnogol iawn o'r Undeb Ewropeaidd (UE), ond nad yw hynny'n golygu eu bod nhw'n ofni ei ddiwygio.
Roedd y blaid yn lansio eu maniffesto ar gyfer yr etholiad Ewropeaidd yn adeilad y cwmni technoleg IQE - sydd newydd sicrhau cytundeb gyda chyflenwyr ar draws yr UE - yng Nghaerdydd.
Yn ôl y maniffesto, blaenoriaethau'r blaid yw creu swyddi, mynd i'r afael â throsedd ac amddiffyn yr amgylchedd.
Fe ddywedodd Arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol Cymreig, Kirsty Williams, mai ei phlaid hi oedd yr unig un oedd wedi ymrwymo'n llwyr i Ewrop.
'Gweledigaeth gref'
"Mae gennym weledigaeth gref ar gyfer Ewrop sydd yn fwy effeithlon, yn fwy cynhyrchiol ac sy'n cefnogi gwerthoedd Cymreig, swyddi Cymreig a budd cenedlaethol y wlad," meddai.
"Mae pleidlais ar gyfer y Democratiaid Rhyddfrydol yn un bositif - ni yw'r blaid ar gyfer bod 'i mewn'.
"Rydym eisiau i Brydain a Chymru aros yn Ewrop oherwydd dyna'r ffordd i gadw'n gwlad yn gryf, yn llewyrchus, yn ddiogel ac yn wyrdd."
Ond pwysleisiodd bod y ddogfen faniffesto'n ei gwneud yn glir fod "bod o blaid Ewrop hefyd yn golygu bod o blaid diwygio".
Prif flaenoriaethau'r blaid ar gyfer Senedd Ewrop yw:
Creu mwy o swyddi drwy fasnachu o fewn Ewrop;
Helpu i frwydro'n erbyn trosedd ledled Ewrop;
Amddiffyn yr amgylchedd a chreu swyddi gwyrdd;
Diwygio'r UE er mwyn torri ar wastraff ac amddiffyn dylanwad y Deyrnas Unedig o fewn y Farchnad Sengl;
Sicrhau bod y Polisi Amaethyddol Cyffredin (CAP) yn parhau i gefnogi cymunedau gwledig yng Nghymru.
Yn yr etholiad diwethaf yn 2009 fe ddaeth y blaid yn bumed yng Nghymru gyda thua 11% o'r bleidlais, pan gafodd y Ceidwadwyr, Llafur Plaid Cymru ac Ukip sedd yr un.
'Arwain y frwydr'
Ddydd Mawrth, dywedodd prif ymgeisydd y Democratiaid Rhyddfrydol Alec Dauncey fod ei blaid yn "arwain y frwydr yn erbyn y sefydliad Ewro-sgeptig", a rhybuddiodd y byddai gadael yr UE yn "anghyfrifol a byrbwyll".
"Drwy fod yn Ewrop gallwn sicrhau'r masnach sydd ei angen ar gyfer amddiffyn adferiad yr economi, rhoi hwb i fusnesau Cymreig a chreu swyddi ar gyfer ein pobl ifanc," ychwanegodd.
"Mae masnach gyda gwledydd Ewropeaidd eraill yn cefnogi miloedd o swyddi Cymreig. Pam rhoi'r rhain yn y fantol?
"Y ffordd orau o sicrhau bod yr UE yn cael ei diwygio yw drwy weithio gyda'n cymdogion, drwy greu cysylltiadau gyda gwladwriaethau tebyg i ni ac ennill y ddadl.
"Mae bygwth gadael yr UE yn beryglus a ni fydd yn cyflawni dim."
Mae rhestr o'r holl ymgeiswyr a'r pleidiau sydd yn sefyll yn yr etholiadau Ewropeaidd ar ddydd Iau Mai 22 ar gael yma.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd25 Ebrill 2014

- Cyhoeddwyd18 Ebrill 2014
