Ymchwilio i farwolaeth bachgen ifanc
- Cyhoeddwyd

Cafodd Daniel Starr ei weld tu allan i dafarn yn ystod oriau man bore Sul
Mae Heddlu Trafnidiaeth a Heddlu'r Gogledd yn cynnal ymchwiliad ar y cyd i farwolaeth dyn 20 oed yn Sir Fflint.
Cafodd y gwasanaethau brys eu galw i ardal gorsaf rheilffordd Penarlâg am 8.43am ddydd Llun.
Dywed parafeddygon fod Daniel Christoper Starr o Sir Fflint wedi marw cyn iddynt gyrraedd.
Mae'r heddlu am wybod mwy am symudiadau Mr Starr nos Sadwrn.
Roedd Mr Starr wedi ei weld y tu allan i dafarn Lady Hamilton yn Neston, Sir Gaer yn ystod oriau man dydd Sul.
Dywedodd y ditectif prif arolygydd Iain Miller o'r Heddlu Trafnidiaeth: "Rydym am glywed gan unrhyw un oedd yn yr ardal ar y pryd, neu unrhyw un sydd ag unrhyw wybodaeth, er mwyn ceisio darlun clir o'r hyn ddigwyddodd."
Dylid cysylltu â Heddlu Trafnidiaeth ar 0800 405040.