Gemau'r Gymanwlad: Llwybr Baton y Frenhines
- Cyhoeddwyd

Y Baton yn teithio ar ganw pren o ynys Kavieng i Nusa yn Papua Gini Newydd
Fe fydd Baton y Frenhines yn teithio trwy Gymru dros y dyddiau nesaf ar ei daith i Glasgow ar gyfer Gemau'r Gymanwlad.
Ymhlith uchafbwyntiau'r daith fe fydd ymweliad â maes Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd yn Y Bala, a thaith i gopa'r Wyddfa.
Bydd yn cyrraedd Maes Awyr Caerdydd ar 24 Mai i gychwyn y daith saith diwrnod gan orffen yn Llandegla, Sir Ddinbych cyn gadael am Fanceinion.
Dywedodd Chris Jenkins, prif weithredwr Cyngor Gemau'r Gymanwlad i Gymru: "Mae Baton y Frenhines yn symbol o wahoddiad i'r genedl i ymuno â theulu estynedig Tîm Cymru.
"Dyma arwydd y Gymanwlad, ac mae ei ddyfodiad â Chymru yn neges bod y Gemau ar y trothwy.
"Gyda Chymru gyfan yn cefnogi ein hathletwyr, mae'r tîm yn dair miliwn mewn nifer.
"Gan ein bod yn genedl sy'n angerddol am ein chwaraeon, mae Baton y Frenhines yn rhoi'r cyfle i ni siarad gyda phobl Cymru, a rhannu cyffro Gemau'r Gymanwlad gyda nhw."
Gadawodd y Baton Balas Buckingham ar Hydref 9 y llynedd, gan ymweld â phob gwlad yn y Gymanwlad ar y ffordd i Glasgow.

Y Frenhines ei hun ddechreuodd taith y baton o Balas Buckingham
Mae hynny'n golygu y bydd y Baton wedi teithio 118,000 o filltiroedd drwy 71 o wledydd - llawer mwy na'r Ffagl Olympaidd - mewn saith mis erbyn i'r Gemau ddechrau.
Y tro cyntaf i'r Baton ymddangos oed pan gynhaliwyd y Gemau yng Nghymru yn 1958 - Gemau'r Ymerodraeth oedd yr enw bryd hynny - ac mae'r traddodiad bellach yn rhan annatod o'r gemau bob pedair blynedd.
Ar ôl mynd drwy cymoedd y de bydd y Baton yn troi tua'r gogledd drwy Llandrindod i faes Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd yn Y Bala.
Yna bydd yn mynd i Sir Gâr a Sir Benfro cyn troi nôl am Fachynlleth a'r gogledd orllewin, gan gynnwys Caernarfon, Ynys Môn, Y Rhyl a Rhuthun.
Yn Sir Benfro bydd y Baton yn mynd o Balas yr Esgob yn Nhyddewi a drwy dir y gadeirlan, lle bydd yn cael ei fendithio gan Esgob Tyddewi.
Bydd y Baton yn gorffen ei daith yn Sir Ddinbych, a dywedodd y Cynghorydd Huw Jones o'r awdurdod: "Mae'n anrhydedd go iawn i Sir Ddinbych gael croesawu'r Baton, ac rydym yn gobeithio y bydd yn gyfle i ni ddangos beth sydd gan y sir i'w gynnig."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd23 Mai 2014
