Achos Y Rhws: dyn 61 oed yn euog
- Cyhoeddwyd

Roedd Robert Bell yn gwadu'r cyhuddiad
Yn Llys Ynadon Caerdydd mae Robert Bell wedi ei gael yn euog o yrru heb y gofal a'r sylw dyladwy.
Roedd Bell, 62 o Ffontygari, Bro Morgannwg, wedi honni mai pwl o beswch achosodd iddo lewygu wrth y llyw adeg y ddamwain ar Fehefin 20 y llynedd.
Clywodd y llys fod ei gar wedi taro oedolion a phlant y tu allan i Ysgol Gynradd Y Rhws, gan achosi anafiadau difrifol i nifer ohonyn nhw.
Roedd un o'r plant yn anymwybodol am dri diwrnod ac fe gafodd pedwar arall driniaeth am anafiadau.
Effeithiodd y ddamwain ar dri o oedolion, gan gynnwys y ddynes lolipop Karin Williams dorrodd ei choesau, ei phenelin, ei hysgwydd a'i hasennau, gan dreulio 10 wythnos yn yr ysbyty.
Roedd Ms Williams wedi dweud wrth y llys fod Bell yn "dal y llyw yn dynn, gyda'i lygaid ar agor led y pen" pan ddigwyddodd y gwrthdrawiad.
Bydd yn cael ei ddedfrydu yn hwyrach.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd15 Mai 2014

- Cyhoeddwyd14 Mai 2014
