Marwolaeth gweithiwr: dirwy £80,000
- Cyhoeddwyd

Bu farw Gavin Bedford ar ôl cael anafiadau i'w ben
Cafodd cwmni diodydd ddirwy o £80,000 ar ôl i ddyn ifanc o Borthcawl farw mewn damwain yn Llantrisant.
Roedd Gavin Bedford, 24, yn helpu i ddatgymalu ffatri cwmni Gerber Juice pan ddisgynodd rhan o'r adeilad arno.
Cafodd Mr Bedford, pencampwr syrffio a beicio talentog, anafiadau difrifol i'w ben. Bu farw tridiau yn ddiweddarach yn yr ysbyty.
Clywodd Llys y Goron Casnewydd fod Gerber Juice wedi cau'r ffatri yn 2010.
Dirwy o £80,000
Cyflogwyd Mr Bedford a nifer o weithwyr eraill er mwyn datgymalu'r ffatri a symud peiriannau ac eiddo o'r adeilad. Clywodd y llys fod y cwmni wedi methu â chynllunio'r gwaith yn ddiogel ac wedi methu â sicrhau adnoddau addas ar gyfer y gwaith.
O ganlyniad doedd gwaith Mr Bedford ddim wedi ei gynllunio na'i fonitro yn ddiogel ac fe ddisgynnodd darn 300kg o'r adeilad arno. Bu'n gorwedd yn anymwybodol am 40 munud cyn i gydweithwyr ddod o hyd iddo.
Clywodd y llys fod y rheolwr, a oedd yn gyfrifol am y gwaith ar y safle, yn datgomisiynu adeilad am y tro cyntaf.
Doedd e ddim wedi derbyn hyfforddiant ffurfiol ar gyfer y dasg. Roedd swyddog diogelwch y prosiect wedi ei leoli yng Ngwlad yr Haf, ac wedi ymweld â'r safle unwaith neu ddwywaith mewn pythefnos.
Plediodd Refresco Gerber Cyf. yn euog i gyhuddiad o dorri'r Ddeddf Iechyd a Diogelwch yn y Gweithle.
Cafodd y cwmni ddirwy o £80,000 a gorchymyn i dalu costau o £75,000.