Achos llofruddio Casnewydd: Gwrthod rhoi enwau
- Cyhoeddwyd

Mae'r pedwar dyn yn gwadu'r cyhuddiadau
Mae dyn o Gasnewydd, ymhlith pedwar ar gyhuddiad o gynllwynio i lofruddio, wedi gwrthod enwi unigolion oherwydd "ei ddiogelwch ei hun."
Honnwyd bod Lewis Bridge, Brogan Hooper, Gary Rabjohns a Ryan Battersby wedi taro yn erbyn car arall a saethu'r rhai yn y car yn fwriadol.
Mae'r pedwar yn gwadu'r cyhuddiadau.
Clywodd Llys y Goron Casnewydd fod 'na ymgais wedi bod i ladd tri o ddynion yng Nghasnewydd gan fod un ohonyn nhw mewn dyled i gang o droseddwyr o Fanceinion.
Cafodd John Phillips ei anafu ar ôl i rywun saethu at y car.
Yn wirfoddol
Dywedodd Mr Rabjohns ei fod wedi mynd i'r orsaf heddlu'n wirfoddol ar Fedi 4 y llynedd ar ôl y saethu y noson gynt.
Cafodd ei gadw yn y ddalfa a dywedodd fod carcharorion eraill wedi ymosod arno.
"Ges i fy mhwnio yn fy mhen, fy mhrest, fy stumog a fy nghicio yn fy nghefn. Wedyn wnes i ofyn i gael fy rhoi mewn bloc ar ben fy hun ar gyfer fy niogelwch fy hun."
Pan ofynnodd ei fargyfreithiwr pam ei fod yn credu bod hyn wedi digwydd dywedodd: "Mi oedd 'na ffrae. O'n i yn cael fy ystyried yn fradwr achos ges i fy arestio gyntaf ac wedyn mi gafodd pobl eraill eu harestio."
"Dw i ddim eisiau beio neb. Dw i wedi cael ychydig o broblemau felly mi fyddai'n well gyda fi gadw fy hun i fy hun."
Dyled
Pan ofynnwyd a oedd wedi clywed bod un o'r tri mewn dyled a bod gang cyffuriau ym Manceinion eisiau £20,000 ganddo ei ateb oedd: "Mi oedd Casnewydd gyfan yn gwybod.
Ychwanegodd wedyn mai dim ond sibrydion oedd y rhain ... dywedodd nad oedd yn gwybod am unrhyw ddyled i gang arall yn Lerpwl.
Gwrthododd enwi unigolion penodol oherwydd "fy niogelwch fy hun."
"Pan y'ch chi yn y carchar a ma pobl yn galw chi yn fradwr, mae'n anghyfforddus."
Gofynnodd ei fargyfreithiwr beth fyddai'n digwydd iddo neu ei deulu os y byddai'n rhoi enwau.
Ei ateb oedd: "Unrhywbeth".