Gareth Williams yn dal i gael ei dalu
- Cyhoeddwyd

Cafodd Gareth Williams ei garcharu am bum mlynedd
Mae dirprwy brif athro oedd yn ffilmio plant yn gudd ac efo miloedd o luniau anweddus yn ei feddiant yn dal i dderbyn ei gyflog.
Cafodd Gareth Williams, 47 oed, ei garcharu am bum mlynedd ddydd Llun ar ol pledio yn euog i 31 cyhuddiad - gan gynnwys cyhuddiadau o voyeuriaeth ac o greu lluniau anweddus.
Mae cyngor Caerdydd sef cyflogwr Williams wedi dweud y gallan nhw "weithredu mewn ffordd briodol heb oedi" rwan am fod yr achos llys wedi dod i ben.
Y gred ydy ei fod yn ennill tua £65,000 y flwyddyn.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd19 Mai 2014

- Cyhoeddwyd20 Mai 2014
