Ymgyrch Pallial: cyhuddo dyn 74 oed
- Cyhoeddwyd
Mae dyn 74 oed o ardal Wrecsam wedi ei gyhuddo o saith trosedd o ymosod a chreulondeb ar blant yn dilyn ymchwiliad gan yr Asiantaeth Droseddu Cenedlaethol.
Mae Peter Steen wedi ei rhyddhau ar fechniaeth a bydd yn ymddangos yn y llys yn yr Wyddgrug ym mis Mehefin.
Honnir bod y troseddau wedi digwydd yn rhwng 1978 a 1986 ar bedwar bachgen ac un ferch oedd rhwng 13 ac 16 oed.
Fe ddaw'r cyhuddiadau fel rhan o ymgyrch Pallial sy'n ymchwilio i achosion hanesyddol o gam-drin mewn cartrefi plant yng ngogledd Cymru.
Mr Steen yw'r trydydd person i gael eu cyhuddo fel rhan o'r ymgyrch.