Ap newydd Eisteddfod yr Urdd
- Cyhoeddwyd

Cafodd Ap yr Urdd ymateb da ar y maes y llynedd
Bydd Ap newydd Eisteddfod yr Urdd yn caniatáu i ddefnyddiwyr rannu canlyniadau trwy Facebook a Twitter.
Cafodd yr Ap ei ddefnyddio gan 13,000 o bobl yn yr Eisteddfod llynedd, ac mae'r Urdd a'u partner S4C yn gobeithio cael ymateb tebyg os nad gwell eleni.
Bydd yr Ap yn cynnwys:
Amserlen a gweithgareddau
Calendr personol o weithgareddau
Map o'r Maes
Canlyniadau
Fideos o enillwyr
Rhagolwg tywydd
Cafodd yr Ap ei ariannu gan yr Urdd a S4C ac mae ar gael i'w lawrlwytho am ddim i ddefnyddwyr Android ac Apple.
Dywedodd Aled Siôn, Cyfarwyddwr yr Eisteddfod: "Rwy'n falch iawn fod gennym yr Ap fel adnodd i'r ymwelwyr ac i bobl fwynhau'r Eisteddfod ble bynnag y maent.
"Rydym yn gobeithio'n fawr bydd yr Ap yn adnodd i bawb gael ategu at eu mwynhad o'r Ŵyl yn y Bala."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd15 Ebrill 2014

- Cyhoeddwyd7 Mai 2014

- Cyhoeddwyd1 Mai 2014

- Cyhoeddwyd19 Mai 2014
