Diwrnod Mudo Pysgod yng Nghaerdydd
- Cyhoeddwyd

Y nod ydy codi ymwybyddiaeth bod rhai mathau o bysgod yn brin
Fel rhan o ddiwrnod rhyngwladol i godi ymwybyddiaeth am y bygythiad i gynefinoedd pysgod, bydd digwyddiad 'Diwrnod Mudo Pysgod y Byd' yn cael ei gynnal ym Morglawdd Bae Caerdydd yn ddiweddarach.
Bydd digwyddiadau cymunedol yn cael eu cynnal mewn 250 o leoliadau ledled y byd, gan ddechrau yn Seland Newydd ac yn dilyn yr haul o amgylch y byd, gan ddod i ben ym machlud Hawaii.
Mae Awdurdod Harbwr Caerdydd (AHC) yn gweithio mewn partneriaeth â Chyfoeth Naturiol Cymru (CNC) ac Ymddiriedolaeth Afonydd De-ddwyrain Cymru (SEWRT) i geisio gwella dealltwriaeth pobl o bwysigrwydd afonydd sy'n llifo'n rhydd a llwybrau mudol.
Mae pysgod mudol megis eogiaid, brithyllod, a llysywod dan fygythiad oherwydd rhwystrau fel coredau a llifddorau, sydd wedi'u hadeiladu i gynorthwyo â llywio ar y dŵr.
Sylw
Dywedodd Bob Derbyshire, yr aelod cabinet yng Nghyngor Caerdydd sy'n gyfrifol am yr amgylchedd; "Bydd dathlu'r diwrnod rhyngwladol hwn yn dod â sylw byd-eang i fater y mae'n rhaid mynd i'r afael ag e."
Ychwanegodd Peter Gough, Cyfoeth Naturiol Cymru: "Mae ansawdd y dŵr yn ein hafonydd yn well nag y mae wedi bod ers degawdau ond mae nifer y pysgod dal yn destun pryder.
"Drwy oresgyn rhwystrau i fudo, rydym yn mynd i'r afael ag un o'r ffactorau allweddol i sicrhau cynaliadwyedd stociau pysgod mudol yn y dyfodol."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd28 Awst 2013
