Rhan o'r A55 ar gau oherwydd llifogydd
- Cyhoeddwyd

Llifogydd ar yr A55.
Mae yna dagfeydd ar yr A55 tua'r gorllewin oherwydd llifogydd ger Tal-y-Bont.
Oherwydd glaw trwm brynhawn Gwener, mae rhan o'r A55 rhwng cyffordd 12 a chyffordd 18 wedi ei gau.
Mae twnnel Conwy wedi ei gau i gyfeiriad y gorllewin am resymau diogelwch gan fod yna gymaint o draffig, ac mae cerbydau'n cael eu dargyfeirio.