Menyw 21 oed wedi marw yn dilyn damwain yn Llaneirwg
- Cyhoeddwyd
Mae menyw 21 oed wedi marw yn dilyn damwain rhwng dau gerbyd yn Llaneirwg ger Caerdydd.
Cafodd y gwasanaethau brys eu galw am 6.40 yb.
Mae ffordd yr A48 wedi cau i'r ddau gyfeiriad yn dilyn y ddamwain ac mae disgwyl i'r ffordd fod ar gau weddill y bore.
Mae'r teulu wedi cael gwybod.