Sir Gaerlŷr allan am 109
- Cyhoeddwyd
Mae Morgannwg wedi chwalu batwyr Sir Gaerlŷr ar ddiwrnod cynta' pencampwriaeth y siroedd yng Ngerddi Soffia yng Nghaerdydd.
Yn eu batiad cynta' roedd yr ymwelwyr allan am 109. Y sgôr ucha oedd un O'Brien, 17 o rediadau.
Cafodd bowlwyr Morgannwg hwyl arni, yn enwedig Allenby (20-3).
Yn eu batiad cynta' mae Morgannwg wedi sgorio 56 am un.