Dros 18,000 ar faes Eisteddfod yr Urdd ddydd Llun
- Cyhoeddwyd

Mae'r Eisteddfod yn cael ei chynnal ar stad Rhiwlas, Y Bala
Daeth 18,246 o bobl i faes Eisteddfod yr Urdd yn y Bala ddydd Llun - dros 1,500 yn fwy nag ar y dydd Llun cynta' y llynedd, pan ddaeth 16,689 drwy'r gatiau.
Yn ôl y trefnwyr, mae nifer yr ymwelwyr i stad Rhiwlas yn y dre' wedi eu "plesio'n arw".
Doedd yna ddim teilyngdod yng nghystadleuaeth y Fedal Gyfansoddi, gyda'r beirniad Guto Puw yn dweud ei bod hi'n "siomedig mai dim ond tair ymgais ddaeth i law, o ystyried potensial creadigol a dychmygol y cynigia'r gystadleuaeth".
Ond ychwanegodd ei fod yn falch fod "safon y gystadleuaeth yn cael ei chynnal".
Dwy ferch o Lŷn oedd enillwyr y prif wobrau celf eleni - Luned Bedwyr, o Bwllheli, yn hawlio'r Fedal Gelf, a Mirain Fflur, o Nefyn yn Llŷn, enillodd Ysgoloriaeth Gelf yr Eisteddfod.
Cafodd un ymwelydd fwy o sylw na neb yn ystod y dydd, sef Baton y Frenhines, a ddaeth i'r maes fel rhan o'r daith i dynnu sylw at Gemau'r Gymanwlad yn Glasgow ym mis Gorffennaf.
Cafodd y cyngerdd agoriadol ei gynnal nos Sul gyda nifer yn perfformio gan gynnwys y delynores Catrin Finch, yr actor a'r diddanwr Eilir Jones, y canwr Luke McCall a dawnswyr Adran Amlwch a Choedpoeth.
Ymhlith y grwpiau oedd yn cymryd rhan oedd Swnami, Jessop a'r Sgweiri a Gai Toms a'r Band.
Yn ystod y noson roedd rhagflas o'r sioe 'Paid â Gofyn i Fi' sydd yn cael ei pherfformio gan blant ysgolion cynradd nos Fawrth a'r sioe ieuenctid 'Dyma Fi' sy'n cael ei pherfformio yn Theatr Harlech nos Lun a nos Fercher.
Roedd y tocynnau i noson gyntaf Dyma Fi nos Sadwrn wedi eu gwerthu i gyd a'r gynulleidfa ar ei thraed ar ddiwedd y perfformiad.
Mae dros 15,000 o blant a phobl ifanc yn cystadlu yn ystod yr wythnos ar ôl bod yn llwyddiannus yn yr Eisteddfodau Cylch a Sir.
Tro blynyddoedd 5 a 6 fydd hi i gystadlu ddydd Mawrth.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd26 Mai 2014
- Cyhoeddwyd26 Mai 2014

- Cyhoeddwyd26 Mai 2014

- Cyhoeddwyd26 Mai 2014

- Cyhoeddwyd26 Mai 2014

- Cyhoeddwyd27 Mai 2013

- Cyhoeddwyd9 Mai 2014

- Cyhoeddwyd7 Mai 2014

- Cyhoeddwyd1 Mai 2014

- Cyhoeddwyd25 Ebrill 2014

- Cyhoeddwyd24 Mai 2014
