Canolfan iechyd newydd £5 miliwn i Langollen
- Cyhoeddwyd

Darlun posib o'r ganolfan iechyd newydd yn Llangollen, ond mae rhai ymgyrchwyr yn anhapus gyda'r cynllun
Mae'r Llywodraeth wedi clustnodi £5 miliwn i adeiladau canolfan iechyd newydd yn Llangollen.
Fe ddaw'r cyhoeddiad ar ôl penderfyniad dadleuol y llynedd i gau ysbyty cymunedol y dref.
Bydd y ganolfan newydd yn cynnig amrywiaeth o wasanaethau cynradd ar safle Gwesty'r River Lodge ar gyrion y dref.
Disgwylir i'r adeilad fod yn ganolfan hefyd ar gyfer gwasanaethau gan y sector wirfoddol.
Bydd y gwaith adeiladu yn cychwyn yn fuan, ac fe ddylai'r ganolfan fod yn agored erbyn Mehefin 2015.
Dywedodd y Gweinidog Iechyd Mark Drakeford: "Mae hwn yn ddatblygiad cyffrous i Langollen sy'n rhoi gwasanaethau ychwanegol i'r gymuned wrth garreg y drws. Bydd hyn yn cryfhau gwasanaethau iechyd yn lleol."
Pwysleisiodd y gweinidog yr angen i ddarparu rhagor o ofal yn y cartref, er mwyn atal pobl rhag cael eu danfon yn ddiangen i'r ysbyty.
Lleoliad 'peryglus'
Ond mae ymgyrchwyr yn parhau i fod yn anhapus â'r penderfyniad i gau'r hen ysbyty cymunedol.
Yn ôl ymgyrchwyr sy'n brwydro yn erbyn y penderfyniad, mae'r cynlluniau yn annigonol i wneud yn iawn am golli 10 gwely yn yr ysbyty.
Dywedodd cadeirydd yr ymgyrch, Martin Crumpton: "Maen nhw'n dweud bydd y gwaith yn dechrau y mis nesaf, ond dyw'r Bwrdd Iechyd heb orffen ymgynghori eto ar y cynlluniau i ddymchwel yr ysbyty cymunedol.
"Dyw e ddim yn gwneud synnwyr. Mae angen y gwelyau yna i gymryd y pwysau oddi ar Ysbyty Maelor Wrecsam."
Mae'r ymgyrchwyr yn anfodlon hefyd â lleoliad y ganolfan newydd, gan ddweud fod e'n rhy bell o ganol y dref, ac mewn lle peryglus i gerddwyr.
Er hynny, mae'r Gweinidog Iechyd yn dweud y bydd y trefniadau newydd yn darparu llawer o wasanaethau iechyd i bobl yn lleol, gan gynnwys triniaeth rheoli poen, ffisiotherapi, a gwasanaethau i bobl sy'n dioddef o glefyd y galon a diabetes.
Bydd amrywiaeth eang o wasanaethau eraill ar gael i gleifion allanol gan gynnwys llawdriniaeth gastro a chlinigau arbenigol. Bydd y ganolfan newydd yn gartref hefyd i weithwyr iechyd meddwl cymunedol, a thimau gwasanaethau cymdeithasol yr ardal.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd12 Mai 2014

- Cyhoeddwyd9 Mawrth 2013

- Cyhoeddwyd26 Medi 2012
