£1.1miliwn ar gyfer addysg ôl-16 yng Nghwynedd ac Ynys Môn
- Cyhoeddwyd

Mae addysg ôl-16 oed yng Ngwynedd ac Ynys Môn wedi derbyn £1.1miliwn.
Bydd sefydliadau addysg ôl-16 yn gweithio'n agosach gyda'i gilydd ar Ynys Môn a Gwynedd oherwydd hwb o £1.1miliwn.
Gyda chefnogaeth o £650,000 o Gronfa Gymdeithasol Ewrop, nod Partneriaeth Ddysgu Gwynedd ac Ynys Môn yw datblygu "ardal o ragoriaeth" o ran darparu addysg a hyfforddiant.
Dywedodd Carwyn Jones, Prif Weinidog Cymru, am y cyhoeddiad: " Rwy'n falch o weld bod arian Ewropeaidd yn helpu ennyn partneriaeth i sicrhau rhagoriaeth mewn addysg a hyfforddiant i'n pobl ifanc fel eu bod nhw'n gallu gwella'u rhagolygon gyrfaol."
'Cyfleoedd gorau'
Dywedodd y Cynghorydd Siân Gwenllian, cadeirydd bwrdd arwain consortiwm addysg ôl-16 Gwynedd ac Ynys Môn: "Rydyn ni'n benderfynol o sicrhau y gallwn ni gynnig y cyfleoedd gorau posibl i bobl ifanc yr ardal.
"Y cytundeb arloesol hwn yw ffrwyth gwaith caled a phartneriaeth rhwng ysgolion, colegau a chynghorau ar draws Gwynedd ac Ynys Môn."
Maer'r parneriaeth yn cynnwys ysgolion uwchradd a Grŵp Llandrillo Menai, sy'n cynnwys Coleg Menai a Choleg Meirion Dwyfor,
Nod y bartneriaeth yw ehangu dewisiadau dysgu, cynyddu cyfranogiad - yn enwedig ymhlith y rheini sy'n byw mewn ardaloedd gwledig - a bodloni anghenion y farchnad lafur, gan ganolbwyntio ar sectorau sydd ar gynnydd megis ynni, yr amgylchedd, gwyddoniaeth a'r diwydiannau creadigol.