Adran newydd i Ysbyty Glan Clwyd
- Cyhoeddwyd

Mae adran achosion brys newydd wedi agor yn Ysbyty Glan Clwyd.
Mae'r adran newydd yn rhan o'r hyn sy'n cael ei alw yn y Cwadrant Achosion Brys, sydd bron ddwywaith maint yr adran flaenorol ac wedi ei lunio er mwyn asesu a darparu triniaeth ddechreuol i gleifion.
Mi ddylai hyn sicrhau bod cleifion ddim yn cymryd gwlâu mewn wardiau yn ddiangen a'u bod yn derbyn triniaeth addas.
Yn ystod y dyddiau nesaf bydd nifer o gyfleusterau eraill yn agor yn y cwadrant newydd, gan gynnwys:
Uned meddygon teulu y tu allan i oriau;
Uned ar gyfer cleifion ag anafiadau difrifol;
Uned penderfyniadau clinigol;
Uned asesu ar gyfer llawdriniaethau;
Cyfleusterau pelydr-x.
'Cyffrous'
Un sydd yn edrych ymlaen at gael dechrau gweithio yn yr adran newydd yw matron yr adran achosion brys, Carole Price-Jones: "Bu'n broses hynod gyffrous i gymryd rhan ochr yn ochr â staff eraill o'r cam cynllunio cynnar ar bapur, hyd at sefyll yn yr adeilad gorffenedig yma heddiw.
"Rydym ni i gyd wedi gweithio gyda'n gilydd i greu cyfleuster a fydd yn fuddiol i gleifion a staff."
Nid yw'r bwrdd iechyd sy'n rheoli'r ysbyty wedi cael amser hawdd dros y flwyddyn ddiwethaf.
Fis Mehefin y llynedd fe wnaeth cadeirydd a phrif weithredwr Betsi Cadwaladr gamu o'r neilltu, ac ym mis Rhagfyr fe gafodd adroddiad ei gyhoeddi oedd yn disgrifio'r bwrdd iechyd fel esiampl o lywodraethu gwael.
Yn ei gyfweliad cyhoeddus cyntaf ers cael ei benodi fel prif weithredwr newydd y bwrdd, dywedodd Dr Peter Higson bod gwaith caled o'i flaen i argyhoeddi'r cyhoedd bod pethau'n gwella.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd5 Mehefin 2014
