£8m i greu canolfan 999 newydd yn Wrecsam
- Cyhoeddwyd

Delwedd artist o'r ganolfan gwasanaethau brys newydd i Wrecsam
Mae disgwyl i waith datblygu ar ganolfan 999 newydd ddechrau wedi buddsoddiad o £8 miliwn.
Daw'r buddsoddiad ar gyfer y ganolfan Ambiwlans a Tân, fydd yn costio cyfanswm o £15 miliwn, gan Lywodraeth Cymru.
Y bwriad yw adeiladu'r ganolfan yn lle'r hen Orsaf Dân ar Ffordd Bradley yn Wrecsam, a'r Gorsafoedd Ambiwlans yn y Waun a Wrecsam.
Wrth gyhoeddi'r buddsoddiad, dywedodd y gweinidog iechyd, Mark Drakeford y byddai'r ganolfan yn cynnig gwasanaethau mwy effeithiol.
Bydd y ganolfan newydd yn cynnig:
Swyddfa diogelwch cymunedol;
Gorsaf Dân gyda lle i wyth cerbyd;
Tŷ hyfforddi, twr ymarfer a safle hyfforddi gwrthdrawiadau traffig;
Gorsaf Ambiwlans, gyda gweithdy, swyddfeydd a chanolfan i staff;
Cyfleusterau staff yn cynnwys ystafell orffwys, swyddfeydd ac ystafelloedd cyfarfod a hyfforddi.
'Effeithlon ac effeithiol'
Dywedodd Mark Drakeford y byddai'r ganolfan newydd yn gwella gwasanaethau yn yr ardal.
"Bydd y cynllun yma yn rhoi'r cyfleusterau mwyaf modern sydd ar gael i wasanaethau Tân ac Ambiwlans yn yr ardal," meddai.
"Bydd yn eu galluogi i weithio yn agosach gyda'i gilydd, gan greu gwasanaethau mwy effeithlon ac effeithiol.
"Yn bwysicach, bydd yn galluogi gwell cydweithio pan mae'n dod i ddelio gyda digwyddiadau ac yn gwella amseroedd ymateb."
Dywedodd Prif Weithredwr y Gwasanaeth Ambiwlans yng Nghymru, Elwyn Price-Morris ei fod yn falch bod y llywodraeth wedi gweld y "potensial" yn y cynllun.
"Bydd cynorthwywyr cerbydau yn gweithio i sicrhau bod cerbydau yn lân a lleihau'r risg o heintio, a galluogi i feddygon dreulio mwy o amser gyda chleifion a chynnig gofal gwell ar gyfer yr ardal.
"Rydw i'n hynod falch ein bod ni nawr mewn sefyllfa i symud y cynllun ymlaen gan ei fod yn rhoi'r cyfle gorau i roi cyfleusterau gwell i staff a gwasanaeth well i'r cyhoedd yn yr ardal."