Charteris yn ymuno â Racing Metro
- Cyhoeddwyd

Bydd Charteris yn symud at ei gyd-chwaraewyr o Gymru yn Racing Metro
Mae clo Cymru, Luke Charteris wedi ymuno â Racing Matro ar gytundeb dwy flynedd.
Symudodd Charteris o Perpignan ar ôl iddyn nhw ddisgyn o gynghrair y Top 14 yn Ffrainc.
Mae Charteris, 31, nawr yn ymuno â chwaraewyr eraill Cymru, Dan Lydiate, Mike Phillips a Jamie Roberts ym Mharis.
Disgynnodd Perpignan, yn ogystal â Biarritz, o'r Top 14 ar ôl tymor siomedig.
Mae chwaraewr arall o Gymru, James Hook, hefyd wedi penderfynu gadael y clwb, a bydd yn ymuno â Chaerloyw.
Nid Charteris yw'r unig chwaraewr newydd sy'n ymuno â Racing - mae eraill yn cynnwys Yoan Audrin o Montpellier, Casey Laulala o Munster a Johan Goosen o'r Toyota Cheetahs.
Mae Charteris wedi chwarae 46 o weithiau i Gymru, ac mae'n rhan o'r garfan sydd wedi teithio i Dde Affrica.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd4 Mai 2014
