Canslo 20 o lawdriniaethau yn Ysbyty Gwynedd
- Cyhoeddwyd

Cafodd yr ysbyty ei daro gan fellt mewn storm fore Sadwrn
Mae 20 o lawdriniaethau wedi eu canslo wrth i Ysbyty Gwynedd barhau i geisio trwsio'r llinellau ffôn.
Erbyn hyn mae'r llinellau ffôn i gyd yn gweithio. Ond am ddyddiau doedden nhw ddim.
Dechreuodd y trafferthion pan darodd mellten yr ysbyty fore Sadwrn.
Credir bod rhan o'r system wedi ei tharo, ac fe gafodd aelod o staff anaf pan gafodd ei daro gan fellten arall drwy ffenest agored yn yr ysbyty.
Bydd llawdriniaethau brys yn parhau i ddigwydd. Ond mae nifer o lawdriniaethau dewisol wedi eu canslo ac mae'r bwrdd wedi cysylltu gyda chleifion unigol i egluro'r sefyllfa. Mae trefniadau'n cael eu gwneud i ail-drefnu apwyntiad.
Bydd clinigau cleifion allanol yn mynd ymlaen fel arfer, ond mae rhybudd i gleifion i ddisgwyl peth oedi.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd8 Mehefin 2014
