Dirgelwch dyfodol Moffett
- Cyhoeddwyd

Mae 'na ansicrwydd ynglŷn â dyfodol cyn brif weithredwr Undeb Rygbi Cymru (URC), ddyddiau cyn cyfarfod cyffredinol brys yr undeb.
Mae'n ymddangos bod David Moffett wedi cau ei gyfrif Twitter ymysg sïon y bydd yn dychwelyd i Seland Newydd.
Mae cyn brif weithredwr URC a rygbi rhanbarthol yng Nghymru wedi ymgyrchu yn erbyn y bwrdd presennol.
Mewn neges ar ei wefan, dolen allanol, mae'n dymuno pob lwc i'r rheiny sy'n mynd i'r cyfarfod ym Mhort Talbot ddydd Sul.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd22 Mai 2014

- Cyhoeddwyd28 Mawrth 2014

- Cyhoeddwyd9 Ionawr 2014
