Samariaid: 'Nifer uchaf o alwadau' ers pum mlynedd
- Cyhoeddwyd

Roedd un ymhob chwech o alwyr yn son am broblemau ariannol, yn ôl y Samariaid yng Nghymru
Roedd trafferthion ariannol yn broblem allweddol wrth i elusen y Samariaid yng Nghymru weld y nifer uchaf o alwadau ers pum mlynedd.
Fe ddywedodd yr elusen bod ofnau am swyddi sefydlog a thoriadau i fudd-daliadau ymysg problemau'r 160,000 o bobl wnaeth ffonio'u gwirfoddolwyr y llynedd.
Roedd cynnydd o 22% mewn negeseuon testun a 7% yn y nifer o e-byst yn 2013, hefyd.
Er mai dros y ffôn, drwy llythyr neu sgwrs y cafodd y rhan fwya' o gymorth ei roi, mae'r Samariaid yn dweud bod y cynnydd yn y cyfathrebu drwy e-bost neu neges destun yn arwyddocaol.
"'Dy ni angen parhau i esblygu a dod o hyd i ffyrdd newydd i estyn llaw, gan ddal i fod yno i bawb sydd angen ein gwasanaeth," meddai Sarah Stone, cyfarwyddwr gweithredol yr elusen yng Nghymru.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd20 Mawrth 2014

- Cyhoeddwyd20 Ionawr 2014

- Cyhoeddwyd11 Awst 2013

- Cyhoeddwyd22 Ionawr 2013

- Cyhoeddwyd8 Medi 2010