Gwagio ysbyty plant oherwydd nwy
- Cyhoeddwyd

Mae rhai o'r bobl gafodd eu gorfodi i adael yr adeilad wedi bod yn mwynhau yr haul
Fe wnaeth pibell nwy wedi torri ger rhan o'r uned blant yn Ysbyty Athrofaol Cymru yn y brifddinas ddydd Mawrth.
Bu staff Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro yn cydweithio gyda'r awdurdodau gan wagio'r llawr gwaelod a'r clinig cyn-enedigol.
Yn ogystal cafodd rhai ffyrdd cyfagos eu cau.
Daeth y digwyddiad i ben doc wedi 1 y prynhawn a chafodd pobl ddychwelyd i'r adeilad.