Athrawes oedd wedi ffugio canser ddim yn cael dysgu eto
- Cyhoeddwyd

Mae athrawes wedi cael ei gwahardd rhag dysgu eto ar ôl iddi ddweud celwydd bod ganddi ganser.
Mi wnaeth Samantha Scrine, 26, gyfaddef iddi ddweud ei bod yn marw o ganser mewn gwrandawiad Cyngor Addysgu Cyffredinol Cymru.
Dywedodd cadeirydd y panel, Peter Williams ei bod wedi ymddwyn yn anonest ac y byddai yn risg i blant os byddai yn parhau fel athrawes.
Clywodd y panel fod Ms Scrine wedi gofyn i'w chydweithwyr yn Ysgol Gyfun Tre-gŵyr am sampl o'u DNA. Roedd hi eisiau darganfod os byddai posib i un ohonyn nhw roi mêr esgyrn iddi.
Mi oedd hi hefyd wedi rhoi rhestr o ganeuon roedd hi'n hoffi, a cherdyn credyd i'r staff er mwyn talu am ei hangladd.
Clywodd y gwrandawiad fod y gwir am gyflwr Ms Scrine wedi dod i'r amlwg wedi i staff o'r ysgol gysylltu â'i theulu.
Roedden nhw wedi dweud nad oedd hi'n dioddef o ganser ond ei bod yn dioddef o iselder.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd16 Mehefin 2014
