Buddugoliaeth ysgubol i Forgannwg
- Cyhoeddwyd

10 wiced am 125 i Hogan
Mae Morgannwg wedi trechu Caint - o fatiad ac 11 rhediad - yn eu gêm yn ail adran Pencampwriaeth y Siroedd.
Roedd hi'n fuddugoliaeth glir i Forgannwg wrth i'r ymwelwyr yn Stadiwm Swalec gael eu bowlio allan am 263.
Michael Hogan wnaeth sicrhau'r fuddugoliaeth.
Ar ôl cymryd 5 am 58 yn y batiad cyntaf fe gipiodd Hogan 5 am 67 yn yr ail fatiad.
Roedd gan Forgannwg reolaeth gadarn o'r gêm ar ôl sgorio 527 - ac roedd bowlio Hogan yn ddigon i drechu'r gwrthwynebwr.
Bydd y fuddugoliaeth yn hwb pellach i hyder Morgannwg ar ôl dechrau da i'r tymor.
Mae'r canlyniad yn golygu eu bod wedi codi i'r pedwerydd safle yn yr ail adran.
Morgannwg (24 Pwynt)
Batiad Cyntaf: 527 i gyd allan
Caint (3 phwynt)
Batiad Cyntaf: 253 i gyd allan
Ail Fatiad: 263 i gyd allan
Morgannwg yn fuddugol o fatiad ac 11 rhediad.