Arweinydd cynghorau yn ymosod ar y llywodraeth
- Cyhoeddwyd

Bydd Llafur Cymru yn cyfarfod ddydd Sadwrn i gwblhau eu polisi ar ad-drefnu llywodraeth leol.
Mae arweinydd Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru wedi ymosod ar Lywodraeth Cymru, gan eu cyhuddo o ddiffyg uchelgais.
Mawn araith mewn cynhadledd yn Llandudno dywedodd Bob Wellington nad oedd eisiau gweld "toriadau fel Lloegr ac uchelgais fel Llywodraeth Cymru" .
Fe alwodd Mr Wellington hefyd am fwy o lais i arweinwyr cynghorau yn y drafodaeth am ad-drefnu llywodraeth Leol.
Hawliodd nad oedd pawb wedi cael cyfle i gyfrannu at y drafodaeth am ddyfodol llywodraeth leol yn dilyn cyhoeddiad adroddiad Comisiwn Williams, sydd yn argymell haneru nifer cynghorau sir Cymru.
"Nid yw'r ddeialog yma wedi digwydd " meddai.
Wrth annerch y gynhadledd dywedodd y Gweinidog Llywodraeth Leol, Lesley Griffiths na fyddai lleihau nifer y cynghorau yn datrys pob problem.
Blwyddyn ychwanegol
Fe amlinellodd Ms Griffiths hefyd gynlluniau i gynnal etholiadau lleol yn 2017 i'r cynghorau presennol. Fe fydd cynghorau sydd yn uno yn wirfoddol yn cael blwyddyn ychwanegol, tan 2018, i gynnal etholiadau.
Rhybuddiwyd y gynhadledd am doriadau pellach. Wrth drafod cyllidebau'r dyfodol dywedodd y gweinidog; "Byddwch yn barod am scenarios heriol y flwyddyn nesaf."
Mae cynghorau yn disgwyl toriad o 1.5% yn eu cyllidebau yn y flwyddyn ariannol 2015-16.
Mae'r cynghorau poeni eisoes am effaith yr argyfwng ariannol. Mae'r Gymdeithas yn darogan y bydd yn rhaid dod o hyd i £500m o doriadau ychwanegol dros y tair blynedd nesaf.
Dywedodd Chris Llewelyn o'r WLGA: "Os yw'r galw am wasanaethau lleol yn parhau i dyfu ar y lefel bresennol, a'r cynlluniau gwariant yn parhau ar yr un lefel, wedyn erbyn 2025 fydd yr arian ddim yn bodoli i ddarparu'r gwasanaethau dewisol mae awdurdodau lleol yn eu cyflenwi.
"Fydd rhaid felly canolbwyntio ar wasanaethau craidd fel addysg a gofal cymdeithasol.
"Y gwir amdani yw nad yw hi'n bosibl cynnal y lefel bresennol o wasanaeth yn y dyfodol."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd19 Mehefin 2014

- Cyhoeddwyd20 Ionawr 2014
