Mesurau arbennig yn cael eu codi
- Cyhoeddwyd

Cafodd gwasanaethau addysg Merthyr Tudful a Sir Fynwy eu gosod dan fesurau arbennig ym mis Chwefror
Mae dau o gynghorau sir Cymru wedi croesawu'r newyddion nad ydynt bellach dan fesurau arbennig o ran ysgolion.
Dywedodd llefarydd ar ran Sir Benfro fod hwn yn "gam pwysig" ar ôl i'r corff arolygu ysgolion, Estyn, ddweud fod yna newid wedi bod yn 'niwylliant' y gwasanaeth addysg.
Fe wnaeth Estyn hefyd gydnabod fod yna welliant wedi bod yn Sir Fôn dros gyfnod o ddwy flynedd.
Roedd cyngor Powys, oedd yn cael ei fonitro ond nid dan fesurau arbennig, hefyd wedi dangos cynnydd.
Yn Hydref 2012 fe gafodd Powys orchymyn i wneud gwelliannau sylweddol, ond nawr dywed Estyn fod y sir wedi dangos "cynnydd digonol".
Mae pedwar o gynghorau Cymru - Torfaen, Blaenau Gwent, Sir Fynwy a Merthyr - yn parhau dan fesurau arbennig.
Dywedodd y Gweinidog Addysg Huw Lewis: "Mae'r cynghorau wedi gwneud cynnydd positif ond mae'n rhaid iddynt sicrhau fod y gwelliant yn gynaliadwy er mwyn darparu'r addysg gorau posib i'r bobl ifanc yn eu hardaloedd."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd26 Chwefror 2013

- Cyhoeddwyd20 Chwefror 2013

- Cyhoeddwyd20 Tachwedd 2012
